Try GOLD - Free
Buddsoddi yn y Gymraeg
Daily Post
|April 10, 2025
DWI'N siŵr ei bod hi'n berffaith amlwg i bawb mai fy ngholofn i helpodd griw Y Ring, Llanfrothen i gasglu digon o bres i brynu'r brydles mewn pryd. Felly diolch am hynna, a llongyfarchiadau a phob lwc i'r dafarn hyfryd a dwi'n edrych ymlaen yn arw at gael camu drwy'r drws eto.
-
Os nad y golofn helpodd, peidiwch â deud, gadewch i mi ymdrybaeddu yn fy niffyg gwybodaeth.
Ond jest rhag ofn... mae 'na fenter arall yng Ngogledd Cymru sydd angen ein cefnogaeth: Siop lyfrau Bys a Bawd, Llanrwst. Mae'n debyg mai hon oedd y siop lyfrau Gymraeg gyntaf yng Nghymru, ac mae'n dathlu ei phen-blwydd yn 70 eleni. Mi fysa'n drasiedi tasai Llanrwst yn colli siop hyfryd fel Bys a Bawd.
Agorwyd y siop wreiddiol nôl yn 1955 gan Dafydd ac Arianwen Parri - ia, yr awdur Dafydd Parri (Cyfres y Llewod ac ati), a rhieni Gwawr, Myrddin, Bedwyr, Deiniol a Iolo. Yn y 1980au, symudodd Arianwen Parry ei siop lyfrau Cymraeg o hen siop cigydd i'w safle presennol yn rhif 29 Stryd Ddinbych, a chyfuno å busnes offer swyddfa Gwawr, ei merch. Yn 2007, daeth yr awdur Dwynwen Berry yn berchennog ar y siop, wedyn ddwy flynedd yn ddiweddarach, ehangodd Dwynwen yr adeilad i gynnwys y siop drws nesaf - a oedd yn arfer bod yn eiddo i'w thad, William Berry, a siop fferins neu dda da oedd honno.
Ond mae Dwynwen yn ymddeol rŵan ac wedi methu cael prynwr, felly mae'r gymuned mewn peryg o golli'r siop lyfrau Gymraeg olaf yn Sir Conwy! Ond chwarae teg i'r bobl leol, mae 'na griw wedi dod at ei gilydd i ffurfio pwyllgor Bys a Bawd Pawb, sy'n benderfynol o gadw'r siop ar agor.
This story is from the April 10, 2025 edition of Daily Post.
Subscribe to Magzter GOLD to access thousands of curated premium stories, and 10,000+ magazines and newspapers.
Already a subscriber? Sign In
MORE STORIES FROM Daily Post
Daily Post
Peace talks welcomed
EUROPEAN officials have said they have been comforted by the outcome of discussions on United States peace proposals for Ukraine.
1 mins
November 25, 2025
Daily Post
Midfield and defence look shaky, while Isak's impact is a mystery to Souness
ARNE SLOT was conspicuous only by his absence at the North West Football Writers Association awards on Sunday.
3 mins
November 25, 2025
Daily Post
Hamilton told to calm down by Ferrari
FORMULA ONE Lewis Hamilton has been urged to “calm down” by Ferrari
1 min
November 25, 2025
Daily Post
Town's £20m fund aims to 'lay the foundations for growth long-term'
Trams, cable cars and virtual reality are just some of the ideas put forward to restore the town's fortunes, as Andrew Forgrave reports
1 mins
November 25, 2025
Daily Post
Elfyn ready for a desert shootout to win WRC title
TOYOTA drivers Elfyn Evans, Sébastien Ogier and Kalle Rovanperä will face off in a bid to be crowned world champion when the all-new Rally Saudia Arabia stages the final round of the 2025 FIA World Rally Championship.
2 mins
November 25, 2025
Daily Post
NAKED AMBITION
MARION MCMULLEN marks the 50th anniversary of The Naked Civil Servant
1 mins
November 25, 2025
Daily Post
Suspension bridge to see the return of traffic control
TRAFFIC controls will return on the Menai Suspension Bridge for a temporary period.
1 min
November 25, 2025
Daily Post
FIGHTING SPIRIT
10-man Blues win after Gueye sent off for clash with Keane P34,35
1 min
November 25, 2025
Daily Post
If Wales wants to fix the NHS, it must finally fix the system around it
ANYONE who works in or alongside our health and social care services in North Wales will recognise the picture painted by Judith Phillips in her recent Daily Post column.
3 mins
November 25, 2025
Daily Post
Tandy calls up quartet ahead of Boks clash
STEVE TANDY has called Ospreys forwards James Ratti and Garyn Phillips, plus Scarlets wing Ellis Mee and Cardiff hooker Evan Lloyd into his squad for Saturday's clash with South Africa.
1 min
November 25, 2025
Listen
Translate
Change font size

