Essayer OR - Gratuit
Adam yn y Sioe Frenhinol
Daily Post
|July 10, 2025
BYDD garddwr teledu poblogaidd yn gosod ei sgil yn erbyn tyfwyr eraill yn sioe amaethyddol fwyaf Cymru lle bydd yn gwisgo tair het wahanol.
-
Bydd Adam Jones, un o gyflwynwyr y gyfres S4C, Garddio a Mwy, hefyd yn cael ei gadw'n brysur fel cyfarwyddwr anrhydeddus yr adran arddwriaeth yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, adran a gafodd ei hadfywio ganddo y llynedd.
Yn ogystal â hynny, bydd hefyd ar y sgrin ar gyfer rhifyn arbennig y rhaglen o'r Sioe Fawr ochr yn ochr â'i gyd-gyflwynwyr, Meinir Gwilym a Sioned Edwards, a fydd yn cael ei darlledu am 8.25pm nos Lun, Gorffennaf 28.
Mae'r garddwr adnabyddus o Gorslas, ger Llanelli, yn wyneb a llais cyfarwydd ar ôl ymddangos yn rheolaidd ar raglenni BBC Radio Cymru ac S4C Prynhawn Da a Heno ac mae hefyd wedi ymddangos ar raglen BBC2 Gardeners World.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi datblygu dilyniant mawr ar gyfryngau cymdeithasol gyda dros 26,000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd).
Yn y sioe eleni, bydd yn mentro ei enw da trwy gystadlu mewn sawl dosbarth yn yr adran garddwriaethol.
Mae Adam yn cyfaddef ei fod braidd yn nerfus am y canlyniad a bydd gwylwyr yn gallu darganfod sut hwyl mae'n ei gael yn ystod y rhaglen sy'n cael ei chynhyrchu gan y cwmni teledu o Gaernarfon, Cwmni Da.
Dywedodd: “Dw i ddim yn gwybod sut hwyl y bydda i'n ei gael oherwydd dyma'r tro cyntaf i mi roi fy enw i mewn. Un peth yw tyfu ffrwythau, llysiau a blodau ond mae'n beth hollol wahanol tyfu rhywbeth a fydd yn dal llygad y beirniaid ac yn ennill tystysgrif goch enwog y dosbarth cyntaf.
“Rwyf wedi cystadlu mewn dosbarthiadau ar gyfer pys pêr a pelargoniums sydd ymhlith y gwobrau mwyaf poblogaidd yn y sioe ynghyd â dosbarth ffrwythau meddal. Rwyf hefyd wedi rhoi fy enw i mewn i'r dosbarth ar gyfer arddangosfa o bump o lysiau gwahanol ond dw i ddim yn gwybod pa lysiau fydda i'n dod â nhw i Lanelwedd eto,” meddai.
Cette histoire est tirée de l'édition July 10, 2025 de Daily Post.
Abonnez-vous à Magzter GOLD pour accéder à des milliers d'histoires premium sélectionnées et à plus de 9 000 magazines et journaux.
Déjà abonné ? Se connecter
PLUS D'HISTOIRES DE Daily Post
Daily Post
Matt looks for improvements
GOLF Matt Fitzpatrick won his first PGA Tour title in three years on Sunday but will spend the next couple of weeks looking for the improvements needed to challenge at the Masters.
1 min
March 24, 2026
Daily Post
People think all we do is waste money... I want to change that so it can never happen again
COUNCIL LEADER AIMS TO IMPROVE 'NEGATIVE PERCEPTION'
4 mins
March 24, 2026
Daily Post
Hodgkinson 'surprised' at her form
ATHLETICS Keely Hodgkinson admitted even she was stunned by her form after securing her first world title in Sunday's 800 metres final at the World Athletics Indoor Championships in Poland.
1 mins
March 24, 2026
Daily Post
UK and France in new small boats deal talks
BRITAIN and France are “united” in their aim to stop small boat crossings, Downing Street has insisted as the Government seeks to renew a migration deal with France set to expire next week.
1 mins
March 24, 2026
Daily Post
N.Wales man one of six arrested at rally
THREE TAKEN IN CUSTODY AT UKIP MARCH AND COUNTER-PROTEST
3 mins
March 24, 2026
Daily Post
Mortgage deals shrink by fifth since Iran war
THE number of mortgage deals on offer for homeowners have shrunk by nearly a fifth since war broke out in Iran just over three weeks ago.
1 min
March 24, 2026
Daily Post
New National Lottery game on the way
THE National Lottery could be rolling out a new draw game within weeks, after completing a £450 million major technology upgrade and reeling in a million more online players.
1 min
March 24, 2026
Daily Post
'It's hard to express what the game has given me'
GLAMORGAN BOWLER HARRIS CALLS TIME ON CRICKET CAREER
2 mins
March 24, 2026
Daily Post
HOME ALONE?
LIVING ON YOUR OWN CAN BE MADE EASIER BY ESTABLISHING A ROUTINE AND ACTIVELY FOSTERING CONNECTIONS, CAMILLA FOSTER LEARNS
2 mins
March 24, 2026
Daily Post
Ampadu hopes to use past joy for inspiration
WALES STAR DRAWS ON 2022 PLAY-OFF AHEAD OF BOSNIA CLASH
2 mins
March 24, 2026
Listen
Translate
Change font size

