يحاول ذهب - حر
Hyderus o effeithiau llesol ffair fasnach
March 05, 2026
|Daily Post
AE cyfanwerthwr bwyd 0 Ogledd Cymru yn rhagweld gwerthiant o £3 miliwn mewn ffair fasnach fawr fis nesaf
-
Dywed Gwasanaeth Bwyd Harlech y gallai Expo 26 a gynhelir dros ddeuddydd yn Venue Cymru yn Llandudno dorri pob record flaenorol ar ôl i ddigwyddiad y llynedd ddenu £1.5 miliwn mewn archebion.
Mae'r cwmni teuluol sy'n ehangu'n gyflym yn credu y gallai hynny ddyblu eto gyda disgwyl i hyd at 3,000 o brynwyr fynd trwy'r drysau ar Fawrth 11 a 12.
Ymhlith y cwsmeriaid bydd cynrychiolwyr o sefydliadau mawr yn y sectorau gofal iechyd ac addysg cyhoeddus a phreifat, ynghyd â'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Daw ar ôl dwy flynedd o dwf cyflym i'r cwmni sydd â'i bencadlys yng Ngwynedd ond sydd wedi ychwanegu canolfannau newydd yng Nghaerfyrddin, Caerffili a Telford i'w ganolfannau hir sefydlog yng Nghricieth a Chaer.
Eisoes mae 115 o gyflenwyr wedi archebu stondin yn y ffair fasnach gan gynnwys cwmni mawr rhyngwladol y diwydiant bwyd a diod fel Coca-Cola, Pepsi, Kellogg's, Premier Foods, Cadbury's, Nestle, Kelly's Ice Cream, Walkers Crisps ac Unilever.
Yn ymuno â nhw bydd brandiau Cymreig adnabyddus fel Jones, Village Bakery, Llaeth y Llan, Radnor Spring, hufen iâ Sidolis, Coffi Ferraris a hefyd cwmnïau bwyd o ardal y ffin fel Cheshire Farm Ice Cream, Purity Soft Drinks o Wednesbury a Cottom Sausages o Lerpwl.
Mae Gwasanaeth Bwyd Harlech hefyd newydd symud i faes busnes ffrwythau a llysiau ffres a bydd y cwmni'n arddangos ei gynnyrch mewn hwb arbennig yng nghanol y neuadd arddangos yn Venue Cymru a fydd hefyd yn cynnwys cynnig cigyddiaeth newydd y cwmni a hefyd cynnyrch Country Range sef brand Harlech ei hun.
Toby Foskett, wyr i sylfaenwyr cwmni Harlech, Colin a Gill Foskett a'r drydedd genhedlaeth o'r teulu i symud i'r busnes, yw'r Rheolwr Categori ar gyfer Ffrwythau, Llysiau a Chigyddiaeth.
هذه القصة من طبعة March 05, 2026 من Daily Post.
اشترك في Magzter GOLD للوصول إلى آلاف القصص المتميزة المنسقة، وأكثر من 9000 مجلة وصحيفة.
هل أنت مشترك بالفعل؟ تسجيل الدخول
المزيد من القصص من Daily Post
Daily Post
Small business lending lifts Metro Bank back into black
METRO
1 min
March 05, 2026
Daily Post
Styles opens up about loss of bandmate Payne
FORMER
1 mins
March 05, 2026
Daily Post
RED ALERT
Saharan dust plume and 'blood rain' heading our way
1 mins
March 05, 2026
Daily Post
US sinks Iranian warship
A US submarine sank an Iranian warship off the coast of Sri Lanka, and Sri Lanka's navy said on Wednesday it recovered 87 bodies and rescued 32 people.
1 mins
March 05, 2026
Daily Post
Special season
TARKOWSKI ON WHY BLUES ARE PUTTING THEMSELVES IN RIGHT POSITION FOR BIG END TO CAMPAIGN
1 min
March 05, 2026
Daily Post
It's not big... but it is clever
WHEN interior designer and presenter Julia Kendell first started her career, she says property value was measured in one blunt metric.... square footage.
2 mins
March 05, 2026
Daily Post
IT'S SHAPING UP TO BE A SPECIAL SEASON
Tarkowski's joy at winning at home again
2 mins
March 05, 2026
Daily Post
IT’S SHOWTIME
THE WORLD'S GREATEST CELEBRATION OF DOGS AND DOG LOVERS IS BACK
3 mins
March 05, 2026
Daily Post
Yankee doodle friendly
LIVERPOOL TO RETURN TO AMERICA FOR PRE-SEASON WITH CLASH AGAINST WREXHAM IN NEW YORK
1 mins
March 05, 2026
Daily Post
New grant to push early tree planting
LANDOWNERS and farmers across Wales can apply for enhanced tree planting grants from tomorrow, with a new £825 per hectare incentive payment available for native broad-leaf woodland creation.
2 mins
March 05, 2026
Listen
Translate
Change font size
