Facebook Pixel Buddsoddi mewn gobaith | Daily Post - newspaper - Bu hikayeyi Magzter.com'da okuyun

Denemek ALTIN - Özgür

Buddsoddi mewn gobaith

Daily Post

|

January 01, 2026

Yn ystod y flwyddyn newydd, byddwn yn gweld swyddi, twf a rhagor o fuddsoddiad yn cael eu darparu yng Nghymru, meddai Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens.

- ■ Jo Stevens

Buddsoddi mewn gobaith

(Jo Stevens)

Drwy gydol 2025, mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau buddsoddiad trawsnewidiol yng Nghymru gyda mesurau i dyfu'r economi, i greu swyddi ac i fynd i'r afael â chostau byw.

Ym mis Tachwedd, cafwyd un o'r buddsoddiadau mwyaf mewn seilwaith yn hanes Cymru, gyda'r cyhoeddiad mai Wylfa ar Ynys Môn fyddai safle adweithyddion niwclear bach cyntaf y DU.

Bydd y prosiect yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn ystod y camau adeiladu a gweithredu, gan helpu i wneud Prydain yn arweinydd bydd eang mewn ynni glân a sicrhau ynni cynhenid i genedlaethau'r dyfodol.

Cafodd hyn ei gefnogi drwy gyhoeddi dwy Ardal Twf AI ar gyfer Gogledd a De Cymru a fydd gyda'i gilydd yn creu dros 8,000 o swyddi da dros y blynyddoedd nesaf a chyhoeddi £10 miliwn i gefnogi swyddi yn y clwstwr lled-ddargludyddion ar hyd yr M4 yn Ne Cymru.

Roedd hyn yn dilyn buddsoddiad mawr yn rheilffyrdd Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn Adolygiad o Wariant y Canghellor. Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, bydd £445 miliwn yn trawsnewid gwasanaethau a chysylltedd ac yn cefnogi twf economaidd ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cymryd camau i fynd i'r afael â chostau byw drwy arbed £150 ar gap ynni aelwydydd, uwchraddio Credyd Cynhwysol, cynyddu pensiwn y wladwriaeth a rhoi rhagor o arian ym mhocedi tua 160,000 o'r gweithwyr ar y cyflogau isaf ledled Cymru, gan gynyddu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Daily Post'den DAHA FAZLA HİKAYE

Listen

Translate

Share

-
+

Change font size