Facebook Pixel Diogelu pysgod yn Indonesia | Daily Post – newspaper – Lesen Sie diese Geschichte auf Magzter.com

Versuchen GOLD - Frei

Diogelu pysgod yn Indonesia

Daily Post

|

December 04, 2025

AE project rhyngwladol newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn anelu at gefnogi adferiad poblogaethau siarcod a chathod môr trwy weithredu ar sail tystiolaeth yn Indonesia - y genedl pysgota siarcod fwyaf yn y byd.

Diogelu pysgod yn Indonesia

Bydd y fenter tair blynedd, a ariennir gan y Gronfa Cadwraeth Siarcod, yn dod â gwyddonwyr, asiantaethau'r llywodraeth, a chymunedau lleol ynghyd i ddatblygu, profi a graddio dulliau arloesol o leihau pwysau pysgota ar rai o'r rhywogaethau morol ledled y byd sydd o dan y bygythiad mwyaf.

Mae'r project yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Yayasan Kebersamaan Untuk Lautan (KUL) - sef sefydliad ar lawr gwlad yn Indonesia y mae ei enw'n golygu Gyda'n Gilydd dros y Cefnforoedd - a'r Ganolfan Astudiaethau Adnoddau Arfordirol a Morol (PKSPL) ym Mhrifysgol IPB, sef un o brif sefydliadau ymchwil morol Indonesia.

Fel ysglyfaethwyr mudol, mae siarcod a chathod môr yn sefydlogi gweoedd bwyd, yn cefnogi'r broses o drosglwyddo maetholion, ac yn gweithredu fel baromedr cyffredinol o ran iechyd y cefnforoedd. Ac eto, mae astudiaethau diweddar yn dangos bod poblogaethau siarcod a chathod môr yn profi dirywiad byd-eang trychinebus. Mae nifer byd-eang siarcod cefnforol wedi gostwng dros 70% yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae siarcod riff yn gwbl absennol o bron i 20% o riffiau a samplwyd ledled y byd, ac mae un o bob tair rhywogaeth o dan beth bygythiad o ddifodiant, ac mae hyn i gyd yn bennaf oherwydd gorbysgota.

WEITERE GESCHICHTEN VON Daily Post

Listen

Translate

Share

-
+

Change font size