Facebook Pixel {العنوان: سلسلة} | {اسم المغناطيس: سلسلة} - {الفئة: سلسلة} - اقرأ هذه القصة على Magzter.com

يحاول ذهب - حر

Bygythiad i rywogaethau

November 27, 2025

|

Daily Post

GALL cymryd mesurau syml, cost-effeithiol nawr adeiladu gwytnwch a helpu i sicrhau dyfodol rhywogaethau mwyaf agored i niwed Cymru, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw wrth i astudiaeth newydd gan y corff amgylcheddol ddatgelu bod bron i 3,000 o rywogaethau yn bodoli mewn pum lleoliad neu lai ledled Cymru.

Bygythiad i rywogaethau

Mae'r adroddiad 'Rhywogaethau mewn Perygl' yn golygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i nodi ei rhywogaethau prinnaf yn seiliedig ar ba mor gyfyngedig yn ddaearyddol ydyn nhw, yn hytrach na defnyddio dulliau asesu traddodiadol.

Ers y mileniwm, mae 11 o rywogaethau eisoes wedi diflannu yng Nghymru, gan gynnwys y Turtur a'r gwyfyn Rhisgl y Morfa. Mae'r adroddiad newydd yn nodi rhywogaethau sydd wedi dirywio bron i ddifodiant, gan gynnwys y gragen las Conventus conventus, y mwsogl Tomentypnum nitens a'r cen Cetraria sepincola.

Mae adroddiad CNC yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i hanner y 2,955 o rywogaethau a nodwyd yng Nghymru wedi'u cyfyngu i leoliadau unigol, gan danlinellu'r angen am weithredu ar frys i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i adeiladu gwytnwch ein hecosystemau.

Mae'r adroddiad hefyd yn canfod y gellir amddiffyn llawer o'r rhywogaethau mewn perygl yn well trwy gamau cymedrol a chost-effeithiol.

المزيد من القصص من Daily Post

Listen

Translate

Share

-
+

Change font size